Athro / Athrawes

·
Full time
Location: Caerphilly
·
Job offered by: Educators Wales
·
Category:
Athro / Athrawes

Job description

Ysgol Gymraeg Caerffili

Athro/ Athrawes - 2 Swydd

Llawn Amser

Contract blwyddyn yn y lle cyntaf

Ar gyfer: Medi 2024

Gan fod yr ysgol wedi adeiladu dosbarth newydd yn dilyn galw sylweddol am lefydd bydd angen athro/athrawes newydd ar gyfer mis Medi, 2024. Mae'r ail swydd yn sgil dyrchafiad aelod o staff yr ysgol.

Bydd y staff newydd yn frwdfrydig, gweithgar, trefnus, llawn egni a hwyl ac yn awyddus i ddatblygu'n broffesiynol er mwyn symud ymlaen i fod yn arweinwyr yn y dyfodol.

Bydd croeso a chefnogaeth gan dîm cryf o arweinwyr, athrawon a staff cynorthwyol sydd wedi sicrhau bod safonau dysgu ac addysgu uchel iawn yn bodoli trwy'r ysgol.

Ein ffocws ydy cyflogi'r staff addysgol gorau i'n hysgol ni a gall yr ymgeiswyr llwyddiannus addysgu yng Ngham Cynnydd 1, 2 neu 3.

Dyma rhai o'r sylwadau yn dilyn pumed arolwg llwyddiannus Estyn yn 2022:

Mae lles ac agweddau disgyblion at ddysgu yn gryfder amlwg yn yr ysgol.

Mae bron pob un disgybl yn gwrtais a pharchus at ei gilydd, oedolion ac ymwelwyr.

Mae disgyblion yn ymddwyn yn gyson dda mewn gwersi ac ar y maes chwarae.

Mae gan bron pob un o'r disgyblion berthnasoedd gwaith cadarnhaol gydag oedolion, sy'n cefnogi eu dealltwriaeth o les yn hynod gadarnhaol.

Mae gan bron pob disgybl agwedd gadarnhaol at ddysgu ac maent yn gweithio'n fyrlymus i gwblhau eu gweithgareddau.

Mae staff yr ysgol yn cydweithio'n frwdfrydig ac angerddol i drochi'r disgyblion yn yr iaith Gymraeg o'u cyfnod cyntaf yn yr ysgol.

Mae arweinwyr wedi buddsoddi'n sylweddol mewn offer ac adnoddau ar gyfer creu ardal allanol o safon uchel.

Trwy gynllunio bwriadus, mae athrawon a chymorthyddion yn llwyddo i ddarparu her briodol i'r ystod lawn o allu'r disgyblion.

Mae'r addysgu yn gyfoethog o brofiadau dysgu diddorol sy'n cefnogi dysgwyr i fod yn uchelgeisiol a hyderus.

Mae athrawon yn darparu profiadau dysgu diddorol sy'n datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgwylion yn llwyddiannus.

Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cefnogol a chroesawgar ble mae pob disgybl yn ymfalchïo eu bod yn aelod gwerthfawr o 'deulu' yr ysgol.

Mae trefniadau'r ysgol ar gyfer asesu ac olrhain cynnydd disgyblion yn gadarn.

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn nodwedd hynod gadarn.

Mae staff yn darparu cymorth ardderchog ar gyfer lles disgyblion trwy raglen cymorth llythrennedd emosiynol a chlybiau anogaeth o dan oruchwyliaeth staff hynod o effeithiol.

Trwy gydweithio hynod effeithiol, mae'r ysgol yn hysbysu rhieni'n llwyddiannus am gynnydd eu plant.

Mae gan yr ysgol gyfan ymagwedd ddylanwadol at reoli ymddygiad disgyblion a sefydlu diwylliant o wrth-fwlio.

Mae'r pennaeth a'r arweinwyr eraill yn llwyddo i ddarparu cyfeiriad strategol clir a chadarn ar gyfer yr ysgol.

Mae'r weledigaeth o ddatblygu disgyblion iach a hyderus mewn cymuned hapus a chroesawgar wedi'i rhannu'n llwyddiannus.

Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel o'u hunain, y staff a'r disgyblion ac o ganlyniad mae ethos gofalgar, gweithgar a Chymreig yn treiddio trwy holl weithgareddau'r ysgol.

Mae sylw parhaus pob arweinydd ar ddatblygu medrau proffesiynol pob aelod o staff yn elfen nodedig o waith yr ysgol.

Mae pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau'n dda.

Mae staff ar bob lefel yn cyfrannu at sesiynau dysgu proffesiynol yn rheolaidd, gan rannu eu harbenigedd yn llwyddiannus.

Mae trefniadau hunanwerthuso arweinwyr yn drwyadl, yn effeithiol ac yn ystyried tystiolaeth uniongyrchol a barn y staff yn gyson wrth iddynt werthuso perfformiad yr ysgol.

Mae aelodau'r corff llywodraethol yn hynod gefnogol i'r ysgol, ac yn ei hadnabod yn dda.

Mae'r ysgol yn ysgol arweiniol, rwydweithiol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r ysgol hefyd yn Ysgol Bartner gyda Chonsortiwm y GCA gan arwain ar yr Iaith Gymraeg a Datblygiad Proffesiynol gan arwain cyrsiau i staff cynorthwyol, fyfyrwyr, ANG, arweinwyr canol, uwch arweinwyr a darpar benaethiaid.

Dyddiad Cau - Dydd Gwener y 23ain o Chwefror.

Rhestr Fer - Dydd Llun y 26ain o Chwefror

Arsylwi Gwersi - WD y 4ydd o Fawrth

Cyfweliadau - 12fed o Fawrth

Bydd angen cwblhau llythyr Cymraeg a Saesneg i gefnogi eich cais a CV gan e-bostio i:

Lynn Griffiths

Pennaeth Ysgol Gymraeg Caerffili

Rhif ffôn - 02920 852531

E-bost - griffithsw7@sch.caerphilly.gov.uk

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

#J-18808-Ljbffr

Recent Jobs

London (On site) · Full time

Are you a smart, driven professional who takes pride in making a difference in local communities? Turner & Townsend’s Real Estate division is experiencing significant growth and we’re looking for an experienced industry professional with health project experience to join our high-performing and collaborative Project Management team. Why Join Us? Impactful Work: Contribute to social [...]Read More... from Assistant Project Manager – Healthcare See details

Chasetown (On site) · Full time

My client, Autosmart International are a manufacturing success story! Site Operations Manager – leading fast-paced manufacturing and warehousing About Our Client Autosmart International is a manufacturing success story, leading the field in vehicle cleaning products. We are the No.1 choice of automotive trade customers across the UK. We have doubled in size in the last [...]Read More... from Site Operations Manager See details

London (On site) · Full time

CSS are looking for an experienced duty officer to join our client’s team who are a local council responsible for all areas within the Tendering district. Working hours: All shifts are 8 hours long with various start times available: Monday to Friday – start times between 6AM – 3PM Saturday & Sunday – 6AM – [...]Read More... from Duty Officer See details