Athro/Athrawes Cerdd a’r Celfyddydau Mynegiannol – Ysgol Caer Elen

·
Full time
Location: Haverfordwest
·
Job offered by: Educators Wales
·
Category:
Athro/Athrawes Cerdd a’r Celfyddydau Mynegiannol - Ysgol Caer Elen

Disgrifiad Swydd Athro/Athrawes Cerdd a'r Celfyddydau Mynegiannol (Cyfnod Mamolaeth) Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gymraeg Pob Oed Caer Elen, Hwlffordd yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â'r swydd hon. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am ddysgu Cerddoriaeth TGAU ynghyd â'r Celfyddydau Mynegiannol yng Ngham Cynnydd 4 (Bl 7, 8 a 9). Edrychwn am unigolyn egnïol a dawnus a fydd yn barod i gyfrannu'n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol.

Cytundeb cyfnod mamolaeth fydd yn cael ei gynnig

a disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar y gwaith o fis Medi 2024 ymlaen. Ysgol Pob Oed 3-16 yn nhref hanesyddol Hwlffordd yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a'r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel. Gwiriadau Cyflogaeth Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag. Diogelu Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk. Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023. Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli. Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

#J-18808-Ljbffr

Recent Jobs

London (On site) · Full time

Are you a smart, driven professional who takes pride in making a difference in local communities? Turner & Townsend’s Real Estate division is experiencing significant growth and we’re looking for an experienced industry professional with health project experience to join our high-performing and collaborative Project Management team. Why Join Us? Impactful Work: Contribute to social [...]Read More... from Assistant Project Manager – Healthcare See details

Chasetown (On site) · Full time

My client, Autosmart International are a manufacturing success story! Site Operations Manager – leading fast-paced manufacturing and warehousing About Our Client Autosmart International is a manufacturing success story, leading the field in vehicle cleaning products. We are the No.1 choice of automotive trade customers across the UK. We have doubled in size in the last [...]Read More... from Site Operations Manager See details

London (On site) · Full time

CSS are looking for an experienced duty officer to join our client’s team who are a local council responsible for all areas within the Tendering district. Working hours: All shifts are 8 hours long with various start times available: Monday to Friday – start times between 6AM – 3PM Saturday & Sunday – 6AM – [...]Read More... from Duty Officer See details