Athro/Athrawes Dosbarth – Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

·
Full time
Location: Caerphilly
·
Job offered by: Educators Wales
·
Athro/Athrawes Dosbarth - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

YSGOL GYNRADD GYMRAEG Y CASTELL 2 x Athro / Athrawes Prif raddfa Un swydd contract blwyddyn, llawn amser o Fedi 2024 (dosbarth) Un swydd contract blwyddyn, llawn amser o Fedi 2024 (dysgu ar draws yr ysgol) Dymuna'r Corff Llywodraethol apwyntio athrawon dosbarth brwdfrydig a chydwybodol sydd â'r gallu i ddysgu ar draws y cyfnod cynradd. Rydym yn ysgol gynradd hapus a chartrefol sy'n ymroddedig i ddarparu addysg o ansawdd uchel i'n disgyblion. Gydag ymrwymiad i ragoriaeth academaidd a datblygiad cyfannol, ein nod yw ysbrydoli a grymuso ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Mae ein cymuned yn bwysig i ni a gofalwn am les bawb gan sicrhau bod ein gweithredoedd yn cyd-fynd â'n cred bod gan bawb yr hawl i fod yn hapus. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus: fod yn hollol gymwys yn y Gymraeg; fod yn gynnes, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd plesurus a hwylus i'r dysgwyr; osod disgwyliadau uchel i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau; addysgu i'r safon uchaf posibl i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr; weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol; arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r cwricwlwm newydd; yn dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh; sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach; gefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol. Cynigir gyfle i'r ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â'r ysgol. Hoffai Mr G. Hughes arsylwi gwers gan yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y cyfweliadau. Ffurflenni cais ar gael i'w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy'r ysgol. Dylid eu dychwelyd at: Mr G Hughes, Pennaeth, Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell, Heol Cilgant, Caerffili, CF83 1WH Dyddiad cau:

25.04.24 Dyddiad rhestr fer:

29.04.24 Dyddiad arsylwad:

Wythnos yn dechrau 06.05.24 Dyddiad cyfweliad:

Wythnos yn dechrau 13.05.24 I weld y disgrifiad swydd cliciwch ar y ddogfen atodedig. Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Gareth Hughes ar 02920 864790. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006. Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976. O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i'r holl staff Cymorth Dysgu (sy'n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016. Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o'ch cofrestriad a'ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon

https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/

neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

#J-18808-Ljbffr

Recent Jobs

London (On site) · Full time

Are you a smart, driven professional who takes pride in making a difference in local communities? Turner & Townsend’s Real Estate division is experiencing significant growth and we’re looking for an experienced industry professional with health project experience to join our high-performing and collaborative Project Management team. Why Join Us? Impactful Work: Contribute to social [...]Read More... from Assistant Project Manager – Healthcare See details

Chasetown (On site) · Full time

My client, Autosmart International are a manufacturing success story! Site Operations Manager – leading fast-paced manufacturing and warehousing About Our Client Autosmart International is a manufacturing success story, leading the field in vehicle cleaning products. We are the No.1 choice of automotive trade customers across the UK. We have doubled in size in the last [...]Read More... from Site Operations Manager See details

London (On site) · Full time

CSS are looking for an experienced duty officer to join our client’s team who are a local council responsible for all areas within the Tendering district. Working hours: All shifts are 8 hours long with various start times available: Monday to Friday – start times between 6AM – 3PM Saturday & Sunday – 6AM – [...]Read More... from Duty Officer See details