Ffisiotherapydd Perfformiad (Rygbi)

·
Full time
Location: Cardiff
· ·
Organisation:

Cardiff Metropolitan University Salary:

£27,979 to £32,982 Location:

Cardiff, Wales Contract type:

Permanent (Full time) Closing date:

1 February 2025 Job Description

Mae'r Tîm Ffisiotherapi yn rhan annatod o'r Tîm Gwasanaethau Perfformiad, gan weithio ar draws rhaglenni perfformiad y brifysgol i ddarparu'r cymorth o'r ansawdd uchaf gyda'r nod o sicrhau'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr-chwaraewyr. Yn ogystal â'r wybodaeth ymarferol a phroffesiynol sydd ei hangen i weithredu gwasanaeth ffisiotherapi effeithlon ac effeithiol, bydd angen i'r ymgeisydd allu ymgysylltu â'n myfyrwyr-chwaraewyr i roi pob cyfle iddynt gyflawni eu potensial unigol. I ragori yn y rôl hon, bydd angen i'r ymgeisydd fabwysiadu dull hyblyg i ymgysylltu â hyfforddwyr a staff cymorth eraill mewn amgylchedd aml-chwaraeon. Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu

Bydd y Ffisiotherapydd Perfformiad (Rygbi) yn arwain y gwaith o gynllunio, gweinyddu a chyflwyno darpariaeth ffisio gadarn ar gyfer rhaglenni perfformiad dethol, gan gynnwys ystod o wasanaethau ond heb fod yn gyfyngedig i; brysbennu, gwasanaeth diwrnod gêm, darparu clinig, adsefydlu, rheoli anafiadau, strapio a thapio ac addysg sesiynau. Gan weithio mewn y’r amgylchedd rygbi, cewch gyfle i weithio gydag amrywiaeth o athletwyr a thimau a ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol gyda'n Tîm Cryfder a Chyflyru, hyfforddwyr a gwasanaethau cefnogi eraill. Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r edau euraidd sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn annog cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhwydd, gan eich cefnogi gyda'ch datblygiad gyrfa. Manteision

Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 1 diwrnod gŵyl banc / consesiwn. Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael. Polisïau ardderchog sy'n addas i deuluoedd. Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol. Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal a chynllun aberthu cyflog beicio i'r gwaith. Mynediad am ddim i deuluoedd i'n darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured. Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Richard Williams (Pennaeth Ffisiotherapi) ar

RAWilliams2@cardiffmet.ac.uk . Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein. Bydd manyleb y person yn cael ei defnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais. Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio. How to apply:

https://jobs.cardiffmet.ac.uk/3923

#J-18808-Ljbffr

Recent Jobs

London (On site) · Full time

Are you a smart, driven professional who takes pride in making a difference in local communities? Turner & Townsend’s Real Estate division is experiencing significant growth and we’re looking for an experienced industry professional with health project experience to join our high-performing and collaborative Project Management team. Why Join Us? Impactful Work: Contribute to social [...]Read More... from Assistant Project Manager – Healthcare See details

Chasetown (On site) · Full time

My client, Autosmart International are a manufacturing success story! Site Operations Manager – leading fast-paced manufacturing and warehousing About Our Client Autosmart International is a manufacturing success story, leading the field in vehicle cleaning products. We are the No.1 choice of automotive trade customers across the UK. We have doubled in size in the last [...]Read More... from Site Operations Manager See details

London (On site) · Full time

CSS are looking for an experienced duty officer to join our client’s team who are a local council responsible for all areas within the Tendering district. Working hours: All shifts are 8 hours long with various start times available: Monday to Friday – start times between 6AM – 3PM Saturday & Sunday – 6AM – [...]Read More... from Duty Officer See details