Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref. Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl. Rydym eisiau penodi Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol i ymuno â’n gwasanaethau sy’n tyfu yn y Gwasanaethau Plant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n timau sefydledig a chefnogol a fydd, gyda chefnogaeth y Prif Weithwyr Cymdeithasol (PWC) a Rheolwyr Tîm yn cynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddyrannu achosion o lwyth bach o waith bach lle bo angen ar gyfer y tîm penodol. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau asesu a chynllunio ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu. Byddai’n fantais deall deddfwriaeth berthnasol am blant, gan gynnwys trosolwg o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac ychydig o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch. Byddwch yn gallu asesu anghenion unigolion ar sail risg, trwy ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a chynnig cynlluniau gofal. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sefydlu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n galluogi. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm. I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau sydd ar gael, anfonwch e-bost i RecriwtiwchFi@caerdydd.gov.uk Gwybodaeth Ychwanegol
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod. Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3@caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd
#J-18808-Ljbffr