PM2148 Cynorthwy-ydd Personol Cymraeg/ Welsh Speaking Personal Assistant

·
Full time
Location: Pontypridd
·
Job offered by: Dewis CIL
·
Category:
DISGRIFIAD SWYDD Cynorthwy-ydd Personol

TIPYN BACH AMDANAF FI FY HUN Dw i‘n fenyw yn fy 70au cynnar yn byw yn ardal Tonteg a Chymraeg ydy fy iaith gyntaf. Mae fy chwaer a brawd yng nghyfraith yn byw yn agos ac yn fy nghefnogi bob dydd. Gan fod dementia yn datblygu’n raddol, dw i’n cael mwy a mwy o drafferth dilyn cyfarwyddiadau a phrosesu tasgau. Roeddwn i’n arfer mwynhau coginio, ond erbyn hyn byddwn i’n chwilio am gefnogaeth wrth baratoi bwyd. Roeddwn i’n arfer mwynhau garddio hefyd, ond nawr mae angen i mi gael fy annog i weithio yn yr ardd. Roeddwn i’n arfer bod yn aelod o gôr Cymraeg a dw i’n dal i fwynhau canu’n fawr. Dw i’n hoffi mynd allan i gaffis i gael cinio neu baned a chacen.

PWRPAS Y SWYDD Dw i’n edrych i recriwtio Cynorthwy-ydd Personol i fy nghefnogi yn y ty ac allan yn y gymuned.

ORIAU GWAITH 4 i 6 awr yr wythnos, i ddechrau, i weithio dros 2 ddiwrnod. Gallai’r oriau fynd yn fwy dros amser. Gall hyn gael ei drafod yn y cyfweliad.

CYFLOG £13.20 yr awr

TASGAU YN GYNNWYS Cynnig cwmni a sgwrs gyfeillgar Anogaeth a help gyda thasgau pob dydd yn y ty a’r ardd Cefnogaeth i adael y ty a mynd am dro neu allan i gaffis (gyda chymorth i fynd i’r toiled mewn mannau cyhoeddus) Posibilrwydd o gynnig gofal personol a chymorth hylendid yn y dyfodol Sicrhau diogelwch a chysur trwy’r amser

Y MATH O BERSON SY’N OFYNNOL Person ag agwedd aeddfed Person cymdeithasol a chyfeillgar Benyw oherwydd gofal personol Rhywun sy’n sensitif ac sy’n deall fy sefyllfa Mae’n hanfodol bod chi’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl Gyrrwr/perchennog car gydag yswiriant dosbarth busnes

AM Y SWYDD Er yn swydd ran-amser, bydd hon yn swydd go iawn lle mae angen darparu rhif yswiriant gwladol. Bydd cyfnod prawf o chwech mis yn y lle cyntaf. Bydd y cyflog yn cael ei dalu’n fisol, gyda thâl gwyliau priodol. Mae’r swydd yn amodol ar dderbyn llythyrau geirda boddhaol a bydd angen cynnal gwiriad heddlu (DBS) cyn dechrau ar y swydd. Bydd y cyflogwr (yr Awdurdod Lleol) yn ysgwyddo cost hyn. Bydd gwiriadau perthnasol yn cael eu gwneud i sicrhau bod gan yr ymgeisydd yr hawl i weithio yn y DU.

Apply Now

#J-18808-Ljbffr

Recent Jobs

London (On site) · Full time

Are you a smart, driven professional who takes pride in making a difference in local communities? Turner & Townsend’s Real Estate division is experiencing significant growth and we’re looking for an experienced industry professional with health project experience to join our high-performing and collaborative Project Management team. Why Join Us? Impactful Work: Contribute to social [...]Read More... from Assistant Project Manager – Healthcare See details

Chasetown (On site) · Full time

My client, Autosmart International are a manufacturing success story! Site Operations Manager – leading fast-paced manufacturing and warehousing About Our Client Autosmart International is a manufacturing success story, leading the field in vehicle cleaning products. We are the No.1 choice of automotive trade customers across the UK. We have doubled in size in the last [...]Read More... from Site Operations Manager See details

London (On site) · Full time

CSS are looking for an experienced duty officer to join our client’s team who are a local council responsible for all areas within the Tendering district. Working hours: All shifts are 8 hours long with various start times available: Monday to Friday – start times between 6AM – 3PM Saturday & Sunday – 6AM – [...]Read More... from Duty Officer See details