Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau
This Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau role with Careers Wales, in Cardiff, Wales, full-time, onsite has been cleaned and structured for clarity while preserving the employer-supplied details.
Role overview
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Job details
- Salary / pay information: £32,262 - £37,330
- Job type: full-time
- Work model: onsite
- Location: Cardiff, Wales
Responsibilities and requirements
- Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.
- Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru.
- Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa CymruRydym yn recriwtio pedwar Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes (Cymraeg Delfrydol)Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn partneriaeth â busnesau a chyflogwyr?Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu rhagorol?Allwch chi egluro sut gall busnesau a chyflogwyr ymgysylltu ag addysg?Ydych chi am wneud cyfraniad allweddol at godi ymwybyddiaeth dysgwyr o natur newidiol y byd gwaith, y sgiliau sydd eu hangen a’r cyfleoedd sydd ar gael?Gallai’r rôl hon fod yn ddelfrydol i chi!Cyflog: £30,993 y flwyddyn (Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant); £32,262 - £37,330 (Cynghorydd Cyswllt Busnes Cymwys)Lleoliadau’r swyddi:· Caerdydd/Bro Morgannwg· De Canolog sef Caerdydd/Bro Morgannwg/Merthyr Tudful/Rhondda Cynon TafOriau gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.GWYBODAETH AM Y SWYDD:Fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant, byddwch yn helpu i lywio, ysbrydoli a chymell pobl ifanc gyda’u cyfleoedd gyrfa gan weithio ar ein Prosiect Profiad Gwaith wedi’i Deilwra.Bydd eich sgiliau fel Cynghorydd Cyswllt Busnes/Dan Hyfforddiant yn helpu i:· Newid agweddau disgyblion at addysg· Cymell pobl ifanc i astudio yn galetach a sicrhau graddau gwell o bosibl· Dylanwadu ar gynlluniau gyrfa disgyblion a’u dewisiadau pwnc· Dod â rhannau o’r cwricwlwm yn fyw· Helpu pobl ifanc i greu cysylltiadau rhwng eu gwersi a’r byd gwaith· Codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa amrywiol sydd ar gael a sut i fanteisio arnynt· Cyflwyno pobl ifanc i fodelau rôl a fydd yn eu hysbrydoli· Herio syniadau am rywedd, hil ac anabledd sy’n cyfyngu ar ddewisiadau gyrfa.Bydd Cynghorwyr Cyswllt Busnes / dan Hyfforddiant sy'n gweithio yn y swyddi hyn yn gweithio'n benodol ar y prosiect Profiad Gwaith wedi'i Deilwra, gan gysylltu ag ysgolion, dysgwyr a chyflogwyr i drefnu lleoliadau gwaith parhaus i bobl ifanc.Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol i gadw mewn cysylltiad â chyflogwyr a chydweithwyr gan sicrhau bod gwasanaethau ymgysylltu â chyflogwyr yn cael eu cydlynu, eu cofnodi a’u rheoli yn briodol.
- Byddai profiad o gefnogi myfyrwyr gyda anghenion dysgu ychwanegol yn fanteisiol ar gyfer un o’r swyddi yma.
- Mae’r gallu i fedru siarad a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddelfrydol.Dylai ymgeiswyr ar gyfer Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant fod wedi'u haddysgu i lefel gradd neu safon gyfatebol megis cymwysterau proffesiynol neu feddu ar brofiad amlwg o gysylltu a delio â chyflogwyr.
Help us keep Jobs247 accurate, safe, and useful for job seekers.
Search for more Cynghorydd Cyswllt Busnes dan Hyfforddiant / Cynghorydd Cyswllt Busnes, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau jobs from Careers Wales in Cardiff, Wales.